Matthew 19:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ei ddiscipulon wrtho, A’s felly y mae ’r devnydd rhwyng gwr a’ gwraic, ny da priodi gvvraic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Os felly y mae achos dyn gyda’i wraig, nid da yw priodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ei ddisgyblion wrtho, “Os felly y mae perthynas gŵr â’i wraig, ni thâl priodi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna y mae hi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, "Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio phriodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig, nid buddiol priodi.