Matthew 19:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y mae’r ei yn ddiweir ar a anet velly o groth ei mam: ac y mae’r ei yn ddiweir, a wnaed yn ddiweir gan ddynion: ac y mae’r ei yn ðiweir, a ei gwnaeth yhunain yn ddiweir er mvvyn teyrnas nef oedd. Y nep a all dd erbyn hyn, d erbyniet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y mae eunuchiaid, y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaeth eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhai pobl wedi eu geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai yn dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae eunuchiaid y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas Nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.