Matthew 19:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot, Gedewch ir ei bychein, ac na ’oharddwch yddynt ddyvot atafi: can ys ir cyfryw ’rei y mae teyrnas nef oedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i’r plant, ac na rwystrwch hwynt rhag dyfod Attaf; canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, ac na rwystrwch hwynt; canys rhai fel hwy biau deyrnas nefoedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond dywedodd Iesu, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch 'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain, ac na rwystrwch hwynt i ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd.