Matthew 19:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, y daeth vn, ac y dyvot wrthaw, Athro da, pa dda a wnaf, yn y chaffwyf vuchedd dragyvythawl?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, rhyw un wedi dyfod Atto, a dywedodd, Athraw, pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragywyddol?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, “Athro, pa dda a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, "Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele un a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol?