Matthew 19:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y gwr‐ieuanc a ddyvot wrthaw, Mi gedwais hyn oll o’m ieuntit: beth ’sy yn eisiae i mi eto?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd y gŵr ieuangc Wrtho, Yr holl rai hyn a gedwais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd y dyn ieuanc wrtho, “Y rhain oll a gedwais; beth sydd eto ar ôl ynof?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc. “Ond mae rhywbeth ar goll.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y dyn ifanc wrtho, "Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gwr ieuanc a ddywed wrtho, Y rhai hyn oll a gedwais; yn mha beth etto wyf ddiffygiol?