Matthew 19:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthaw, A’s wyllysy vot yn perfeith, does, gwerth ’sy genyt, a’ dyro i’r tlodiō a’ thi gai dresawr yn y nef oedd: a’ dyre d a’ dilyn vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth etto sydd ar ol ynof? Dywedodd yr Iesu wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy feddiannau, a dyro i’r tlodion, a bydd genyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Os wyt ti am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd; a thyred, canlyn fi.