Matthew 19:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu y gwr‐ieuanc yr ymadroð hwn, yr aeth ffwrdd yn drist: canys ydd oedd ef yn berchen da lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o’r gŵr ieuangc yr ymadrodd, aeth ymaith yn drist, canys yr oedd a chanddo dda lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan glywodd y dyn ieuanc y gair, aeth ymaith yn ofidus; canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd iddo feddiannau lawer.