Matthew 19:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thrachefyn y dywedaf y chwi, Haws i gamel vyn e d trwy gray ’r nodwydd‐ ddur, nac i’r goludawc vyned y mewn y deyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac etto y dywedaf wrthych, Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. Ac wedi clywed o’r disgyblion, aruthr iawn fu ganddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd na goludog i mewn i deyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i mi ddweud eto — mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrachefn meddaf i chwi, Rhwyddach yw i gamel fyned i fewn drwy grai y nodwydd nag i oludog fyned i fewn i Deyrnas Dduw.