Matthew 19:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu y ddiscipulon ef hyn, sanny awnaethant yn aruthyr, gan ddywedyt, Pwy gan hyny all vot yn gadwedic?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion y mae hyn yn ammhosibl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd y disgyblion, synnent yn ddirfawr, gan ddywedyd, “Pwy ynteu a all gael ei gadw?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, "Pwy felly all gael ei achub?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu ei Ddysgyblion, hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig?