Matthew 19:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno Petr atepodd ac a ddyvot wrtho, Nycha nyni a adawsam pop peth, ac ath ddilynesam di: a’ pha beth a vydd y‐ni
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di; pa beth, gan hyny, fydd i ni?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna atebodd Pedr iddo, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di; beth ynteu a fydd i ni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni'n ei gael?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebodd Pedr ef, "Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna Petr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni a adawsom bob peth ac a'th ganlynasom di; pa beth, gan hyny, a fydd i ni?