Matthew 19:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar Iesu a ddyvot yddynt, Yn wir y dywedaf wrthych, mae pan eisteðo Map y dyn yn eisteddva ei ’ogoniant, chwychwi yr ei a’m canlynawdd yn yradgenetleth, a eisteðwch hefyt ar ddeuddec eisteddva, ac a vernwch dauðec llwyth yr Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, chwychwi, y rhai a’m canlynasoch, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y Dyn ar orseddfaingc Ei ogoniant, a eisteddwch, chwithau hefyd, ar ddeuddeg gorseddfaingc, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, cewch chwi a’m dilynodd i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi — pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch I yn yr Ail‐enedigaeth, pan eisteddo Mab y Dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd eich hunain hefyd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.