Matthew 19:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy bynac a edy tai, ney vroder, neu chwioreð, neu dat, neu vam, ne wraic, nei blant, nei diredd, er mwyn vy Enw i, ef a dd erbyn ar y canvet, a’bywyt tragyvythavl a etivedda.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, er mwyn Fy enw I, y can cymmaint a dderbyn efe, a bywyd tragywyddol a etifedda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i a dderbyn lawer gwaith cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob un a'r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phob un a'r a adawodd frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, neu dai, er mwyn fy enw I, a dderbynia lawer mwy, ac a etifedda fywyd tragwyddol.