Matthew 19:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth y Pharisaieit attaw, gan y demptio ef, a’ dywedyt wrthaw, Ai cyfreithlon i wr wrthddot ei wraic am bop achos?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth Atto Pharisheaid, yn Ei demtio, a dywedyd, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig am bob achos?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato Phariseaid i’w brofi gan ddywedyd, “Ai iawn i ddyn ysgar â’i wraig am bob rhyw achos?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ryw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, "A yw'n gyfreithlon i u373?r ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd, A ydyw gyfreithlawn i ddyn ysgar â'i wraig am bob achos?