Matthew 19:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, A’ ny ddarllenasach, pan yw i’r vn y gwnaeth vvy yn y dechreu, yn wryw a’ benyw ei gwneythy d hwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, i’r Hwn a’u gwnaeth o’r dechreu, yn wrryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau a dywedodd, “Oni ddarllenasoch i’r Crëwr o’r dechrau eu gwneuthur yn wryw a benyw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? — ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau gan ofyn, "Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u creodd hwynt o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a banyw ac a ddywedodd,