Matthew 19:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot, O bleit hyn y gad y dyn dad a’ mam ac y gly yn wrth ei wraic, ac ylldau y byddant yn vn cnawt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd, Oblegid hyn yr ymedy dyn â’i dad ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac iddo ddywedyd Oherwydd hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd, "Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant un cnawd;