Matthew 19:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ddyvot wrthwynt, Moysen erwydd caledrwydd eich calonae, a ’oddefoð yw’ch wrthðot eich gwrageð: eithr o’r dechreu ny d oeð hi velly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd wrthynt, Mosheh, o herwydd eich calon-galedwch, a ganiattaodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; ond o’r dechreu nid oedd felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’i gollwng hi ymaith?” Medd ef wrthynt, “Moses, oherwydd eich calon-galedwch chwi, a ganiataodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; ond ni bu felly o’r dechreuad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechrau nid felly yr oedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd ef hwy, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd. Ond o'r dechreu nid oedd felly.