Matthew 19:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi dywedaf ychwi, mai pwy pynac a wrthddoto ei wraic, dyethr am ’odinep, a’ phriody vn arall, y vot yn tori priodas, a’ phwy pynac a briota hon, a yscarwyt, a dyr briodas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig oddieithr am odineb, ac a briodo un arall, godinebu y mae; ac a briodo un a ollyngwyd ymaith, godinebu y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig oddieithr am anniweirdeb, ac a briodo un arall, y mae’n godinebu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae'r hwn a briodo'r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr meddaf i chwi, Pwy bynag a ysgaro â'i wraig, nid am odineb, ac a briodo un arall, y mae yn gwneuthur godineb; [ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd yn gwneuthur godineb.]