Matthew 2:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo pan anet yr Iesu ym Beth‐lehem dinas yn Iudeah, yn‐diddiae Herod Vrenhin, nycha, Doethion a ddeuthant or Dwyrain i Gaerusalem,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi geni’r Iesu ym Methlehem Iwdea yn nyddiau Herod frenin, dyma ddewiniaid o’r dwyrain yn dyfod i Gaersalem,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi geni'r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerwsalem,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea, yn nyddiau Herod frenin, wele, Magiaid o'r Dwyrain a ddaethant i Jerusalem,