Matthew 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac aethont ir tuy, ac a gawsont y dyn‐bychan gyd a Mair ei vam, ac a gwympesōt ir llawr, ac y addolesont ef, ac a egoresont ei tresawr, ac a offrymesont iddaw anregion, ysef aur, a’ thus a’ myrrh.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair ei fam, a syrthio a’i addoli; ac agorasant eu trysorau ac offrwm iddo anrhegion — aur a thus a myrr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo — aur a thus a myrr
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i'r tu375? a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a chan syrthio i lawr, hwy a'i haddolasant ef, a chan agor eu trysorau, hwy a offrymasant iddo aur, a thus, a myrr.