Matthew 2:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y rhubyddio wy can Dduw trwy hun, nad ymchoelent at Herod, ydd aethant trachefyn y’w gwlat rhyd ffordd arall. Yr Euangel ar ddiegwyl y meibion gwirion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, ar l cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio dychwelyd at Herod, aethant yn l i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi derbyn cyfarwyddyd mewn breuddwyd na ddychwelent at Herod, ar hyd ffordd arall hwy a ymadawsant i'w gwlad.