Matthew 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ gwedy yddynt ymado, wely Angel yr Arglwydd a ymddangosodd i Ioseph trwy hun, gan ddywedyt, Cyvot, a’ chymer y mab‐bychan a’ ei vam, a’ chilia ir Aipht: a’ bydd yno yd yny ddywetwyf yty: can ys caisiaw a wna Herod y map‐bychan er ei ddiva.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, a dweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys Herod sydd ar geisio y mab bychan i'w ddyfetha ef.