Matthew 2:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yno y bu, hyd varwolaeth Herod, yn y gyflawnit yr hynn a ddywetpwyt gan yr Arglwydd trwy r Prophwyt, gan ddywedyt, O’r Aipht y gelwais vy Map.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd, O'r Aifft y gelwais fy mab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd yn wir: “Gelwais fy mab allan o'r Aifft.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: "O'r Aifft y gelwais fy mab."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd drwy y proffwyd, gan ddywedyd, “O'r Aifft y gelwais fy mab”.