Matthew 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno Herod, pan weles ei dwyllo gan y Doethion a ffromawdd yn aruthr, ac ef a ddanvonawdd savvdvvyr ac a laddodd yr oll veibion ar oeddynt ym‐Beth‐lehem ac yn‐cwbyl o hei chyffinydd, o ddwyvlwydd oet, a’ than hynny wrth yr amser a ymovynesei ef yn ddichlin ar Doethion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna pan welodd Herod mai cellwair ag ef a wnaethai’r dewiniaid, fe ffromodd yn aruthr, ac anfonodd a lladd yr holl fechgyn a oedd ym Methlehem ac yn ei holl ororau o ddwyflwydd ac isod, yn ôl yr amser yr holodd yn fanwl amdano gan y dewiniaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi ei dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a'r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed — hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi ei ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i'r golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna Herod, pan welodd ei dwyllo gan y Magiaid, a fu ddigllawn iawn, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hyny, wrth yr amser y dysgasai yn gywir oddiwrth y Magiaid.