Matthew 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llef a glywet yn Rhama, galar, ac wylofain a chwynvan mawr: Rachel yn wylo am hei phlant, ac ny vynnei hei chodfforddio, can nad oeddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Llef yn Rama a glybuwyd, Wylofain a galar mawr; Rachel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llef yn Rama a glywyd, wylofain a galar mawr: Rahel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr — Rachel yn crïo am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
“Llef a glybuwyd yn Ramah, Wylofain ac ochain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynai ei chysuro, am nad ydynt.”