Matthew 2:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ddywedyt, Cyvot, a’ chymer y bachcen ai vam, a’ dos i dir Israel: can varw yr ei oedd yn caisiaw enaid y bachcen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Cyfod a chymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel; canys meirw yw’r rhai a geisiai einioes y plentyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn dweud wrtho, “Dos â'r plentyn a'i fam yn ôl i wlad Israel. Mae'r bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel, canys y mae y rhai a geisient fywyd y mab bychan wedi marw.