Matthew 2:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac aeth ac a drigawdd mewn dinas a elwit Nazaret, yn y chyflawnir hyun a ddywedesit trwy ’r Prophwyti nid amgen y gelwit ef yn Nazaraiat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac aeth i gartrefu mewn dinas a elwir Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwydi mai Nasaread y gelwid ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy'r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: "Gelwir ef yn Nasaread."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
efe a giliodd i barthau Galilea, ac a ddaeth ac a drigodd mewn dinas a elwir Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwydi, “Efe a elwir yn Nazaread ”.