Matthew 2:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a alwodd ynghyt yr oll archoffeiriait, ac yscrivenyddion y popul, ac a ymovynodd ac wynt p’le y genit Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi casglu ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynnodd â hwynt pa le y genid y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ddwyn yn nghyd yr holl Archoffeiriaid ac Ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid y Crist.