Matthew 2:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tithae Beth‐lem yn tir Iudah nid y lleiaf wyt ymplith Tywysogion Iudah: can ys o hanat ti y daw y tywysawc a byrth vy‐popul Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“A thydi, Bethlehem, tir Iwdea, Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah, Canys o honot y daw allan dywysog, Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thithau, Fethlehem tir Iwda, nid lleiaf o gwbl wyt ymhlith llywodraethwyr Iwda; canys ohonot ti y daw Arweinydd, ac ef a fugeilia fy mhobl Israel.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thithau, Bethlehem, tir Jwda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda: canys ohonot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Bethlehem, yn nhir Jwda — Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
“A thithau, Bethlehem, tir Judah, nid wyt o gwbl y lleiaf yn mhlith tywysogion Judah, canys allan o honot ti y daw Arweinydd, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”