Matthew 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Herod yn gyfrinachol a alwodd y Doethion, ac a ymofynawdd yn ddiyscaelus pa amser yr ymddangosesei y seren,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna, wedi i Herod alw’r dewiniaid yn ddirgel, mynnodd wybod yn fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna Herod a alwodd y Magiaid yn ddirgel, a mynodd wybod yn fanwl ganddynt amser y seren a ymddangosodd.