Matthew 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef y danvones wynt i Veth‐lehem, can ddywedyt, Ewch, ac ymovynwch yn ddiyscaelus am y map‐bychan, a gwedy ychwi y gaffael ef, manegwch i mi drachefyn, mal y gallwyf vinae ddyvot a’i addoli ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac anfonodd hwynt i Fethlehem, a dywedodd, “Ewch, a holwch yn fanwl am y plentyn, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf innau i’w addoli.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, "Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf finau hefyd a'i addoli ef.