Matthew 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddynt glywet y Brenhin, wy a ymadawsont: a’nycha, y seren yr hon a welsent yn y Dwyrein, oeð yn myned oei blaen hwy, yd yn y ddeuth a sefyll goruch y lle ydd oedd y map-bachan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; a dyna’r seren a welsent pan gododd yn eu rhagflaenu, nes iddi ddyfod a sefyll uwchben y fan yr oedd y plentyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant i'w ffordd; ac wele y Seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.