Matthew 20:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddeuth yr ei cyntaf, wy dybiesōt y cahēt vwy, eithr hwythae hefyt a gawsant bob‐vn geiniawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o’r rhai cyntaf, tybiasant mai mwy a gaent; a chawsant hwy hefyd bob un ddenar:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth y rhai cyntaf tybiasant y caent fwy; eto cawsant hwythau hefyd swllt yr un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, a hwy hefyd a gawsant bob un y ddenarion.