Matthew 20:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Ny weithiodd yr ei olaf hyn anid vn awr, a’ thi ei gwnaethost yn gystal a ninae r’ ei a ddygesam bwys y dydd a’r tes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Y rhai hyn, yr olaf, un awr y gweithiasant, ac yn gystal â ni y gwnaethost hwynt, y rhai a ddygasom bwys y dydd a’r gwres poeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, ‘Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a gwnaethost hwynt yn gyfartal â ni, sy wedi dwyn pwys y dydd a’r gwres.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud, 'Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Y rhai diweddaf hyn, un awr y gweithiasant, a thi a'u gwnaethost hwy yn gydradd a ninau, y rhai ydym wedi dwyn pwys y dydd, a'r gwres tanllyd.