Matthew 20:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid iawn i mi wneythyd a vynwyf am y s’y i mi vyhun? a ytyw dy lygat ti yn ddrwc am vy‐bot i yn dda?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid cyfreithlawn i mi wneuthur yr hyn a ewyllysiaf â’m heiddof? A ydyw dy lygad yn ddrwg o herwydd i mi fod yn dda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’m pethau fy hun? Neu ai cenfigennus wyt ti am fy mod i’n garedig?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel 'rwy'n dewis 'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai nid rhydd i mi wneuthur yr hyn a fynwyf â'm heiddo fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg am fy mod I yn dda?