Matthew 20:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y roddant ef i’r Cenedloedd er yddyn watwor, a’ei yscyrsiaw, a’ ei grogi: a’r trydyð dydd y cyfyd ef drachefyn. Yr Euangel ar ddydd S. Iaco Apostol
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thraddodant Ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i flangellu a’i groes-hoelio; a’r trydydd dydd yr adgyfyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a thraddodant ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i ffrewyllu ai groeshoelio, a’r trydydd dydd fe gyfyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, fy chwipio a'm croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'i traddodant ef i'r cenedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio, a'r trydydd dydd y cyfodir ef.