Matthew 20:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthei, Peth a vynny? Y hi a ddyvot wrthaw, Caniata ir ei hynn vy‐deu vaip gahel eistedd, vn ar dy ddeheulaw, ar llall ar dy law aswy yn dy deyrnas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a dywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau Wrtho, Dywaid am eistedd o’r rhai hyn, fy nau fab, y naill ar Dy law ddehau, a’r llall ar Dy law aswy, yn Dy deyrnas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthi, “Beth a fynni?” Medd hi wrtho, “Dywed am i’m dau fab hyn gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy deyrnas.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a'r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu. Dyma'r fam yn ateb, “Baswn i'n hoffi i'm meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef wrthi, "Beth a fynni?" Atebodd, "Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeheu, a'r llall ar dy law aswy, yn dy Deyrnas.