Matthew 20:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawð ac a ddyvot, Ny wyðoch beth y archwch. A ellwch yvet o’r cwpa n ydd yfwy vi o hanavv a’ch batyðiaw a’r batydd y batyddier vi? Dywedesont wrthaw Gallwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o ’r cwppan, yr hwn yr wyf Fi ar fedr yfed o hono?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan yr wyf i ar fedr ei yfed?” Meddant wrtho, “Gallwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r gwpan chwerw dw i'n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?" "Gallwn," meddent.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi ar ei yfed? Dywedant wrtho, Gallwn.