Matthew 20:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt. Diogel ydd yfwch o’m cwpa n ac ich batyddier, a’r batydd i’m batydier i gantavv, eithyr eistedd ar vy‐deheulaw ac ar vy llaw aswy, nid yw i mi y roi: eithyr e roddir i’r sawl y darparwyt y ganvy‐Tat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant Wrtho, Gallwn. Dywedodd wrthynt, o’m cwppan yn wir yr yfwch: ond eistedd ar Fy llaw ddehau ac ar yr aswy, nid yw Eiddof ei roddi oddieithr i’r rhai y darparwyd ef iddynt gan Fy Nhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ef wrthynt, “Fy nghwpan a yfwch, ond eistedd ar fy neheulaw ac ar fy aswy nid eiddof i ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd iddynt gan fy Nhad y mae.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwpan, ac y'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu, “Byddwch chi'n yfed o'm cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi eu dewis.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a ddywed wrthynt, Y cwpan yn wir chwi a yfwch, eithr eistedd ar fy llaw ddeheu ac ar yr aswy nid eiddo fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu gan fy Nhad.