Matthew 20:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phā gigleu ’r dec ereill hyn, sory awnaethant wrth y ddau vroder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o honynt, y deg a sorrasant o achos y ddau frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd y deg, digiasant ynghylch y ddau frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda'r ddau frawd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu y deg hwy a sorasant yn nghylch y ddau frawd.