Matthew 20:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny yr Iesu ei galwodd wynt ataw, ac a ddyvot, Ys gwydoch mae penaetheit y Cenetloedd a arglwyðiant arnaðwynt, a’r gwyr mawrion, ae gwrthlywiant wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, wedi eu galw hwynt Atto, a ddywedodd. Gwyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywedodd, “Chwi wyddoch fod llywodraethwyr y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt a’u mawrion yn awdurdodi arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi'n gwybod sut mae'r rhai sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn — maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, "Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwu375?r mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt.