Matthew 20:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis, ac y deuth Map y dyn nyd y’w wasanaethy, ’namyn er gwasanaethu, ac y roddy ei vywyt yn bryniant tros lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel ni fu i Fab y Dyn ddyfod i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roddi Ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.