Matthew 20:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y safodd yr Iesu, ac y galwadd wy ac a ddyvot, Beth a ewyllisiwch imi y wneythy d ywch’?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi sefyll, yr Iesu a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd yr Iesu, a galwodd hwynt, a dywedodd, “Beth a fynnwch i mi ei wneuthur i chwi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n stopio, a'u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Iesu, a'u galw a dweud, "Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, gan ddywedyd, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi?