Matthew 20:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu gan dosturiaw a gyhyrddodd a ei llygait: ac yn y van y cymerth ey llygait olwc, ac vvy y dylynesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan dosturio wrthynt, yr Iesu a gyffyrddodd â’u llygaid; ac yn uniawn y cawsant eu golwg, ac y canlynasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tosturiodd yr Iesu wrthynt, a chyffyrddodd â’u llygaid, ac yn y fan cawsant eu golwg a dilynasant ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n llawn tosturi, a dyma fe'n cyffwrdd eu llygaid nhw. Yn sydyn roedden nhw'n gallu gweld! A dyma nhw'n ei ddilyn e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd 'u llygaid, a chawsant eu golwg yn l yn y fan, a chanlynasant ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a dosturiodd ac a gyffyrddodd â'u llygaid hwynt, ac yn ebrwydd hwy a gawsant eu golwg, a hwy a'i canlynasant ef.