Matthew 20:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefyn yddaeth ef allan ynghylch y chwechet a’r nawet awr, ac a wnaeth yr vn moð,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Etto, wedi myned allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, y gwnaeth efe yr un modd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hwy aethant. A thrachefn yr aeth allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, a gwnaeth yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly i ffwrdd â nhw. “Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.