Matthew 20:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef aeth allan yn‐cylch yr vnved awr arðec, ac a gafas ereill yn sefyll yn segur, ac a ddyvot wrthynt. Paam ydd y chwi yn sefyll yma yn hyd y dydd yn segur?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg, wedi myned allan, cafodd eraill yn sefyll; a dywedodd wrthynt, Paham yr ydych yma yn sefyll yr holl ddydd yn segur?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg aeth allan, a chafodd eraill yn sefyll, ac medd wrthynt ‘Paham yr ydych yn sefyll yma ar hyd y dydd yn ddi-waith?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed am bump o'r gloch y p'nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd trwy'r dydd?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, 'Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, efe a aeth allan ac a gafodd ereill yn sefyll, ac a ddywed wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?