Matthew 20:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan aeth hi yn hwyr, y dyvot Arglwydd y winllan wrth ei ’orchwiliwr, Galw yr gweithwyr, a’ dyro yddynt ei cyfloc, can ddaechrae or hei dywethaf yd yr ei cyntaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwyr wedi dyfod, dywedodd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi hwyrhau, medd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw’r gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai olaf hyd y rhai cyntaf.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw'r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o'r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw'r gweithwyr draw a talu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda'r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda'r rhai cyntaf.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, 'Galw'r gweithwyr, a thl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywed wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.