Matthew 20:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ðeuth yr ei a gyflogesit yn‐cylch yr vnvet awr arddec, cahel a wnacth pop vn geinioc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o’r rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant bob un ddenar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant swllt yr un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, derbyniasant bob un ddenarion.