Matthew 21:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a aeth y mewn i templ Dduw, ac ei taflawdd hwynt y gyd allan yr ei oedd yn gwerthy ac yn prynu yn y templ, ac a dd ymchlawdd y lawr vyrddae yr newidwyr‐arian, a’ chadeiriae yr ei oedd yn gwerthy colombenot,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth yr Iesu i mewn i deml Dduw, a thaflodd allan yr holl rai oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml; a byrddau y newidwyr arian a ddymchwelodd Efe, a chadeiriau y rhai yn gwerthu colommenod:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth Iesu i mewn i’r deml, a bwriodd allan yr holl weithwyr a phrynwyr yn y deml; a dymchwelodd fyrddau’r cyfnewidwyr arian, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau'r newidwyr arian, a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml, ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod.