Matthew 21:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot wrthwynt, Mae yn escrivennedic, Y tuy meu vi tuy gweddi y gelwir, eithyr chwi ei gwnaethoch yn’ ogof llatron.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y’i gelwir,” ond chwychwi sydd yn ei wneud ef yn ogof lladron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac medd ef wrthynt, “Ysgrifennwyd, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi, ond gwnewch chwi ef yn ogof lladron.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrthynt, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhu375? i yn du375? gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef. Eithr chwi ydych yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr.