Matthew 21:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A glywy di yr hyn a ddyweit yr ein? A’r Iesu a ddyuot wrthynt, Do: Any ddarllenasech erioed, O enae ’rei‐bychein, a’r ei yn sugno y perffeithieist voliant?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
llidiasant, a dywedasant Wrtho, A glywi Di beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Clywaf. Oni fu i chwi erioed ddarllen, “O enau plant aflafar a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedasant wrtho, “A glywi di beth a ddywed y rhain?” Ac medd yr Iesu wrthynt, “Clywaf; oni ddarllenasoch erioed O enau plant bach a rhai’n sugno y darperaist iti fawl?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae'r rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho. “Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd, “‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedasant wrtho, "A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?" Atebodd Iesu, "Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: 'O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist foliant?